Gellwch hefyd addasu’r ymarfer i gyffwrdd gofalgar mewn ffordd synhwyraidd. Gellwch wneud llysnafedd eich hun!
Beth fyddwch ei angen i wneud llysnafedd:
● Powlen
● Llwy
● Dŵr
● Blawd corn: tua dau lond cwpan
● Lliw bwyd amrywiol a / neu gliter

Ychwanegwch ddau lond cwpan o flawd corn i’r bowlen, ychwanegwch y dŵr fel bo’r angen a’i gymysgu i dewychu’r blawd corn – trowch y blawd corn wrth i chi ychwanegu’r dŵr. Gellwch wedyn ychwanegu rhai diferion o liw bwyd a / neu gliter i wneud eich llysnafedd mor lliwgar ag yr ydych yn ei ddymuno!
Awgrym defnyddiol: Cymerwch sylw a gwelwch sut mae ansawdd y llysnafedd yn newid wrth i chi ychwanegu’r dŵr!
Cymerwch sylw a gwelwch sut mae’r llysnafedd yn newid lliw wrth i chi ychwanegu’r lliw bwyd a / neu gliter. Beth ellwch chi ei weld, arogli a’i deimlo? A yw hyn yn newid wrth i chi roi’r llysnafedd yn eich dwylo a’i wasgu?