Activity

Jar Gliter

Gall ein meddwl fod yn brysur neu’n anniddig fel y gliter mewn jar neu blu eira mewn glôb eira. Gellwch wneud eich jar gliter eich hun, a gellwch ei defnyddio i fynegi sut mae eich meddwl yn teimlo. Gellwch hefyd ysgwyd a gwylio’r gliter yn y jar, gan gymryd sylw o’r hyn rydych yn ei weld yn y foment honno.

Yr hyn fydd ei angen arnoch:

● Jar wag gyda chaead
● Dŵr
● Glud PVA clir
● Gliter!

I wneud eich jar gliter:

● Tywalltwch ddŵr i’r jar tan ei bod yn ¾ llawn
● Ychwanegwch tua hanner llond llwy de o lud PVA. Bydd y glud yn helpu’r gliter i symud o gwmpas y jar
● Ychwanegwch gliter i’r jar – defnyddiwch gliter o wahanol liwiau os ydych eisiau
● Gellwch wedyn roi’r caead ar y jar a sicrhau ei fod ddigon tynn (fel nad yw’r dŵr yn colli!)

a person putting hand in a jar full of glitter

Awgrym defnyddiol: Gellwch ysgwyd y jar gliter a chyfri eich anadlau i mewn ac allan wrth i’r gliter symud a setlo yn y jar. Neu gellwch hefyd ddefnyddio glôb eira, y gellir ei ddefnyddio fel dull o gyfathrebu sut mae eich meddwl yn teimlo.

Er enghraifft:

● Gall eich meddwl fod yn dawel a llonydd, a’r eira ar waelod y glôb;
● Gall eich meddwl fod yn brysur, a’r plu eira’n symud yn y glôb;
● Gall eich meddwl fod yn tawelu ac yn setlo fel y plu eira’n suddo i waelod y glôb eira.