Gwrthrych dirgel: Mae hwn yn weithgaredd synhwyraidd syml i roi cynnig arno os ydych yn dymuno!
Gellwch addasu’r ymarfer meddylgarwch ‘pob dydd’ yn dibynnu ar eich anghenion, dymuniadau a theimladau. Os ydych yn casglu gwahanol wrthrychau mewn bag lliain, caewch eich llygaid a sicrhewch nad oes unrhyw wrthrychau a allai achosi niwed yn y bag. Gellwch wedyn roi eich llaw neu ofyn i’r unigolyn rydych yn ei gefnogi roi ei law yn y bag. Gellwch ddewis cau eich llygaid neu eu cadw’n agored (beth bynnag sydd orau gennych chi) – ceisiwch osgoi edrych yn uniongyrchol yn y bag, os gellwch!
Archwiliwch yr hyn yr ydych yn ei deimlo wrth gyffwrdd ac archwilio’r gwrthrychau yn y bag. Bydd hyn o gymorth i chi archwilio gwrthrychau mewn ffordd synhwyraidd – archwiliwch yr hyn rydych yn ei deimlo a’r gwahanol ansawdd a theimlad sydd i’r gwrthrychau drwy eu cyffwrdd. Hefyd, archwiliwch yr hyn yr ydych yn ei glywed wrth i chi gyffwrdd y gwrthrychau.
Awgrym defnyddiol:
Beth ydych yn ei deimlo wrth i chi gyffwrdd y gwrthrych? Beth yw’r llun sydd wedi ei greu yn eich dychymyg?



